SL(5)454 – Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”) a Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (“Rheoliadau 2019”).
Mae rheoliadau 3 i 8 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2002. Mae Rheoliadau 2002 yn gweithredu Cyfarwyddeb 2001/18/EC ynghylch gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol (“Cyfarwyddeb 2001”). Mae angen y diwygiadau hyn er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2018/350 sy’n diwygio Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran asesu risg amgylcheddol organeddau a addaswyd yn enetig (“Cyfarwyddeb 2018”).
Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o Gyfarwyddeb 2001 i adlewyrchu’r diwygiadau a wnaed iddi gan Gyfarwyddeb 2018.
Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 4 i 7 yn ymwneud â’r wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn ceisiadau am ganiatâd i ollwng uwch blanhigion a addaswyd yn enetig mewn perthynas â threialon. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn ceisiadau am ganiatâd i ollwng uwch blanhigion a addaswyd yn enetig at ddibenion masnachol. Mae’r newidiadau hyn yn angenrheidiol oherwydd bod Atodiadau III a IIIB i Gyfarwyddeb 2001 wedi eu hamnewid gan Gyfarwyddeb 2018.
Mae rheoliad 8 yn gwneud mân newidiadau i Atodlen 3 i Reoliadau 2002.
Mae rheoliad 9 yn diwygio Rheoliadau 2019 sy’n dod i rym ar y diwrnod ymadael ac a fydd yn diwygio Atodlen 3 i Reoliadau 2002. Diben y diwygiad yw hepgor darpariaeth y bydd rheoliad 8 o’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ddiangen.
Gweithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y 4 pwynt technegol a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Mae'r dyddiad trosi o 29 Medi 2019 ar gyfer Cyfarwyddeb 2018 wedi'i fethu. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod Gweinyddiaethau'r DU wedi gwneud penderfyniad cynharach i beidio â throsi Cyfarwyddeb 2018 fel rhan o baratoadau i ymadael â’r UE ar 29 Mawrth 2019. Fodd bynnag, yn dilyn ymestyn dyddiad Ymadael â’r UE i 31 Hydref 2019, mae gweinyddiaethau'r DU wedi cytuno i drosi Cyfarwyddeb 2018 ond gwnaed y penderfyniad hwn gyda dim ond amserlen fer i'w drosi. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru a yw wedi bod mewn gohebiaeth â'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch gweithredu Cyfarwyddeb 2018 yn hwyr.
Yn rheoliad 7, sy'n mewnosod Atodlen 1A i Reoliadau 2002, mae paragraff 15(c) newydd yn cynnwys croesgyfeiriad at baragraff 14(f). Credwn y dylai'r croesgyfeiriad fod at baragraff 14(g), nid paragraff 14(f).
i. Mae Adran B.4(f) o Atodiad III B I i Gyfarwyddeb 2001 (a fewnosodir gan yr Atodiad i Gyfarwyddeb 2018) yn gofyn am y wybodaeth a ganlyn mewn perthynas â rhyddhau planhigion uwch a addaswyd yn enetig:
“Description of the methods and procedures to:
(i) avoid or minimise the spread of the GMHPs beyond the site of release;
(ii) protect the site from intrusion by unauthorised individuals;
(iii) prevent other organisms from entering the site or minimise such entries.“
Nid yw'n ymddangos bod y Rheoliadau hyn yn cynnwys gofyniad cyfatebol, dim ond gwybodaeth am Atodlen 1 i Reoliadau 2002 sy'n ofynnol yn y “dulliau a gweithdrefnau i ddiogelu'r safle”. Gofynnwn pam nad yw testun Cyfarwyddeb 2018 a ddyfynnwyd uchod wedi'i adlewyrchu yn y Rheoliadau?
ii. Yn rheoliad 7 (sy'n mewnosod Atodlen 1A i Reoliadau 2002) mae paragraff 18(c) newydd yn gofyn am ddarparu gwybodaeth am “experimental design including statistical analysis” mewn cais am gydsyniad i farchnata planhigion uwch a addaswyd yn enetig. Mae Cyfarwyddeb 2018 yn darparu'r canlynol:
“Experimental design and statistical analysis of data from field trials for comparative analysis:
(i) Description of field studies design
(ii) Description of relevant aspect of the receiving environments
(iii) Statistical analysis.”
Gofynnwn pam nad yw testun Cyfarwyddeb 2018 a ddyfynnwyd uchod wedi'i adlewyrchu yn y Rheoliadau?
i. Yn rheoliad 6(13) ystyr “rhywogaethau planhigion” yw:
“(a) wild and weedy relatives, or
(b) crops.”
Yn fersiwn Gymraeg y Rheoliadau mae'r gair “neu” (“or”) ar goll:
“(a) perthnasau gwyllt a chwynnog,
(b) cnydau.”
ii. Yn rheoliad 7 o'r fersiwn Gymraeg, sy'n mewnosod Atodlen 1A i Reoliadau 2002, dylai’r paragraff 3(e) newydd fod yn 3(dd).
iii. Yn rheoliad 7, sy'n mewnosod Atodlen 1A i Reoliadau 2002, mae paragraff 13 newydd yn gofyn am “[d]disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi'u cyflwyno neu wedi'u haddasu”. Mae “traits” a “characteristics” yn cyfieithu fel “nodweddion”. Rydym yn gwerthfawrogi anhawster cyfieithu'r darpariaethau hyn, ond gofynnwn i Lywodraeth Cymru a yw'n fodlon bod y testunau Cymraeg a Saesneg yn gweithredu rhannau perthnasol Cyfarwyddeb 2018 yn briodol.
iv. Yn rheoliad 7, sy'n mewnosod Atodlen 1A i Reoliadau 2002, mae’r paragraff 22(a) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd am gydsyniad i farchnata planhigion uwch a addaswyd yn enetig i ddarparu gwybodaeth am “the adverse effects arising” mewn perthynas â senario penodol. Mae'r fersiwn Gymraeg yn darllen “effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny” (“the adverse environmental effects arising”). Mae'r anghysondeb hwn yn cael effaith ar ystyr y ddarpariaeth gan fod y Rheoliadau'n gwahaniaethu rhwng effeithiau andwyol ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl ac anifeiliaid.
Mae'r un anghysondeb yn digwydd ym mharagraff 24(a)(i) newydd gyda'r geiriad “adverse effect arising”.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau rhinweddau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu rhwymedigaethau’r UE mewn perthynas â gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol, ac felly bydd y Rheoliadau hyn yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.
Ymateb y Llywodraeth
Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
16 Hydref 2019